Ffederasiwn / Federation
Ers Ionawr 2026, mae Ysgol Gymunedol Trimsaran ac Ysgol Gymraeg Ffwrnes wedi bod yn gweithredu fel Ffederasiwn Ffurfiol, dan arweiniad un Pennaeth a’i lywodraethu gan un Corff Llywodraethol. Er bod y ddwy ysgol yn parhau i gynnal eu hunaniaeth unigol, eu safleoedd, a’u trefniadau o ddydd i ddydd, mae cyfleoedd cynyddol i gydweithio, gan gynnwys ymweliadau addysgol ar y cyd, defnyddio trafnidiaeth ar y cyd, a chydweithio ehangach lle bo’n briodol.
Since January 2026, Ysgol Gymunedol Trimsaran and Ysgol Gymraeg Ffwrnes have been operating as a Formal Federation, led by one Headteacher and governed by a single Governing Body. While both schools continue to maintain their own individual identities, sites, and day-to-day arrangements, there are increasing opportunities for collaboration, including shared educational visits, joint use of transport, and wider cooperative working where appropriate.