Cynghorau Ysgol / Pupil voice groups
Y Cyngor Eco / Eco Council
Etholwyd Cyngor Eco yr ysgol ym mis Medi.
Gwnaethon nhw adolygiad amgylcheddol ar ddechrau'r flwyddyn ac yna Côd Eco.
Mae nhw'n cwrdd yn aml er mwyn penderfynu sut i ddatblygu materion amgylcheddol yr ysgol.
Mae gweithgareddau amgylcheddol yn chwarae rhan hollbwysig ym mywyd bob dydd yr ysgol.
The Eco Council was elected in September.
They made an environmental review at the beginning of the year and created the school’s Eco-Code.
The committee often meet to decide how to develop the school's environmental issues.
Environmental activities play a vital role in the daily life of the school.
***Rydym yn Ysgol Platinwm / We are a Platinum School***
Y Cyngor Ysgol / School Council
Etholwyd Cyngor Ysgol ym Mis Medi. Cafodd aelodau o ddosbarthiadau 2 i 6 i ddewis gan gyd-ddisgyblion i gynrychioli eu lleisiau yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer yr ysgol.
The School Council was elected in September. Pupils from year 2 to 6 were selected by members of their class to represent their voices and help make decisions to support the pupils and better the school.
Ein gweledigaeth ni yw:
· Ymateb i’r holiadur sut i wella’r Ysgol.
· Codi arian i gefnogi elusennau amrywiol a ddewiswyd gan y myfyrwyr.
· I gydweithio gyda’r pennaeth a’r staff er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn un lwyddiannus.
Our vision is:
· To respond to the pupil’s questionnaire on how to better the school.
· To raise money to support various charities chosen by the students.
· To work alongside the headteacher and staff to ensure that our school is successful.
Y Microsgwad / The Microsquad
Etholwyd disgyblion o flynyddoedd 3 i 6 i fod yn y Microsgwad ym mis Medi. Yn ddiweddar, mae’r ysgol wedi derbyn tystysgrif aur gan gwmni Technocamps am ddatblygu sgiliau digidol disgyblion a staff ar draws yr ysgol.
Ein blaenoriaethau:
- Rhoi hyfforddiant a defnyddio’r dyfeisiau gwahanol sydd yn yr ysgol e.e. dronau
- Arweinwyr Digidol i gynnal sesiynau digidol gyda disgyblion eraill yn yr ysgol.
- I ddatblygu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein ar draws yr ysgol.
Pupils from Years 3 to 6 were elected to be part of the Microsquad in September. Recently, the school received a gold certificate from ‘Technocamps’ for developing the digital skills of pupils and staff across the school.
Our priorities:
- Provide training and use the various devices available in the school, e.g. drones.
- Digital Leaders to run digital sessions with other pupils in the school.
- Develop awareness of online safety across the school.
Llysgenhadon Chwaraeon / Sports Ambassadors
Etholwyd disgyblion o flynyddoedd 3 i 6 i fod yn Llysgenhadon Chwaraeon ym mis Medi.
Rol y llysgenhadon yw i:
- Cynyddu cyfranogiad mewn Addysg Gorfforol a chwaraeon, tu fewn a thu allan i’r ysgol.
- Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bod yn actif.
- Annog pawb i fyw bywyd iach.
- Gweithredu fel modelau rôl ar gyfer gweddill yr ysgol.
- Cyflwyno newyddion chwaraeon i weddill yr ysgol yn ystod gwasanaethau.
- Gwrando ar farn/anghenion disgyblion a darparu cyfleoedd ar gyfer profiadau chwaraeon newydd.
Pupils from Years 3 to 6 were elected to be Sports Ambassadors in September.
The role of the sports ambassadors:
- Raise the profile of sport in school.
- Increase participation of PE and sport, inside and outside of school.
- Raise awareness of the importance of being active.
- Encourage everyone to lead a healthy lifestyle.
- Act as role models for the rest of the school.
- Deliver sporting news to the rest of the school during assemblies.
- Listen to pupils’ views/needs and provide opportunities for new sporting experiences.