Croeso/Welcome
CROESO
Annwyl Riant / Warcheidwad,
Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Ffwrnes sydd wedi’i lleoli ar gyrion tref Llanelli. Symudodd yr ysgol i adeilad newydd ar Rhagfyr 1 af 2014. Mae’r cyfleusterau o fewn yr ysgol yn caniatau hyblygrwydd yn y dull o ddysgu’r plant h.y. ôl eu hanghenion – fel unigolion, grwpiau bach neu fel dosbarth cyfan.
Caiff ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin. Nid yw’r ysgol mewn dalgylch ffyniannus na chwaith un difreintiedig, er bod rhai ardaloedd o dan anfantais economaidd. Mae tua 14% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydiau ysgol am ddim; ffigwr sydd yn is na’r cyfartaledd ar gyfer awdurdod lleol a chenedlaethol.
Ar hyn o bryd, mae tua 450 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 3 ac 11 oed. Daw tua 20% o’r disgyblion o gartrefi ble siaredir y Gymraeg yn brif iaith. ae yna gynnydd sylweddol yn nifer o rieni di-gymraeg sy’n danfon eu plant i’r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.
Mae yna 19 o athrawon a 25 o gynorthwywyr yn gweithio yn yr ysgol ynghyd a 7 o staff ategol. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus.
Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol a a phrofiadau hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i weithgareddau chwaraeon a chelf. Ein nôd yw datblygu’r plentyn cyfan a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a chymreig. Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, neu cysylltwch i wneud apwyntiad am ymweliad er mwyn profi awyrgylch a bwrlwm yr ysgol brysur hon.
S. Jones
Pennaeth
WELCOME
Dear Parent / Guardian, Dear Parent / Guardian,
Ysgol Ffwrnes is a Welsh-medium primary school located on the outskirts of Llanelli town. The school moved to a new building on 1st December 2014. The facilities within the school allow flexibility in the way the children are taught i.e. according to their needs - as individuals, small groups or as a whole class. It is hosted by Carmarthenshire local authority.
The school is not in a prosperous catchment area nor a disadvantaged one, although some areas are economically disadvantaged. Around 14% of the pupils are eligible to receive free school meals; a figure which is lower than the average for a local and national authority.
Currently, there are around 450 pupils on the roll between the ages of 3 and 11. Around 20% of the pupils come from homes where Welsh is spoken as the main language. There is a significant increase in the number of non-Welsh speaking parents who send their children to school as they see the benefits of bilingualism.
There are 19 teachers and 25 assistants working in the school together with 7 supporting staff. The team is enthusiastic and works hard to raise standards and continually improve the school.
We are proud of the school's high standards of achievement, and the wide range of extracurricular activities and experiences are also important to us, with pupils experiencing success in various areas from the Urdd's eisteddfodau to sports and art activities. Our aim is to develop the whole child and create a safe, happy, and Welsh environment. Read on for more information or get in touch to make an appointment for a visit to experience the atmosphere and bustle of this busy school.
S. Jones
Headteacher