Nosweithiau rhieni
Cyfarfodydd Rhieni
Fe'ch gwahoddir i wneud apwyntiadau ar gyfer cyfarfodydd rhieni-athrawon nesaf yr ysgol. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu harchebu ar-lein, ac yna'n cael eu cynnal wyneb i wyneb yn yr ysgol.
Mae'r cyfarfodydd rhieni ac athrawon ar ddydd Llun 11eg - Iau 14eg o Dachwedd 2024 ar gyfer pob blwyddyn. I wneud eich apwyntiadau, mewngofnodwch ar: https:parents-booking.co.uk/ysgolffwrnes
I fewngofnodi bydd angen i chi nodi:
Eich enw cyntaf a'ch cyfenw.
Enw cyntaf, cyfenw a dyddiad geni eich plentyn.l
Rhaid i'r manylion mewngofnodi a nodwch gyd-fynd â'r rhai sydd gennym ar eich cyfer chi.
Bydd apwyntiadau ar gael i'w harchebu o 18:00yp ar ddydd Gwener 25ain o Hydref.
Ar ôl i chi wneud eich apwyntiadau gallwch ddewis argraffu neu e-bostio cadarnhad. Os na allwch archebu o adref, cysylltwch â swyddfa'r ysgol i gael cymorth.
Yn gywir, Steffan Jones Pennaeth